Diben platfform Cofrestru Ar-lein Datblygu Chwarae Sir y Fflint yw diogelu eich preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi’i fwriadu i roi gwybod i chi sut rydym ni’n casglu, defnyddio, rhannu a gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn ystod y broses gofrestru. Darllenwch yr hysbysiad hwn yn ofalus i ddeall ein harferion.
Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir at y dibenion canlynol:
- I gofrestru cyfranogwyr ar gyfer y Ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored
- I sicrhau diogelwch a lles cyfranogwyr
- I gyfathrebu gwybodaeth bwysig yn ymwneud â Darpariaethau Chwarae Mynediad Agored
- I’n ein helpu i fonitro cyfranogiad ac i wella’r cyfleoedd chwarae a ddarparwn
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol
Yr wybodaeth a gesglir gennym
Drwy gydol y broses gofrestru ar-lein, rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth bersonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Enw
- Dyddiad Geni
- Gwybodaeth Gyswllt (cyfeiriad, e-bost, rhif ffôn)
- Gwybodaeth Gyswllt mewn Argyfwng
- Gwybodaeth Feddygol (alergeddau, cyflyrau meddygol, anableddau)
- Gofynion Arbennig
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data?
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint yn rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gwireddu Darpariaethau Chwarae dan Erthygl 31 CCUHP, ynghyd ag erthyglau perthnasol eraill. Bydd eich data categori arbennig yn cael ei brosesu dan Erthygl 9 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, sy’n cynnwys data yn ymwneud ag iechyd. Mae prosesu data categori arbennig, gan gynnwys lle bo budd cyhoeddus sylweddol, yn ofynnol dan ddeddfwriaeth gwasanaethau perthnasol.
Nid yw’r wybodaeth a gesglir wedi’i chyfyngu i’r enghraifft a ddarparwyd ond mae’n cynnwys y data perthnasol sydd ei angen ar gyfer perfformio tasgau cyhoeddus.
Nodwch hefyd ein bod yn gofyn am gydsyniad i ymgysylltu â’n gwasanaethau; fodd bynnag, nid yw cydsyniad yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol.
Cadw Data
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y flwyddyn gyfredol a 6 blynedd arall at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad hwn, neu fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Yn dilyn y cyfnod cadw, byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth yn ddiogel.
Sut ydym yn rhannu eich gwybodaeth
Bydd Cyngor Sir y Fflint ond yn rhannu eich gwybodaeth â’r Gwasanaeth Brys mewn achos o argyfwng.
Eich Hawliau
Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw am y flwyddyn gyfredol a chwe blynedd arall. Mae gennych yr hawl i dynnu eich gwybodaeth yn ôl ar unrhyw bryd. Os hoffech wneud hynny, anfonwch e-bost at PlayDevelopment@flintshire.gov.uk.
Alla’ i gael copi o’r wybodaeth sydd gennych amdanaf? Gallwch. Mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth sy’n cael ei chadw a gofyn am gopïau. Y ffordd hawsaf yw mynd i wefan y Cyngor a llenwi Ffurflen Hawliau Unigol. Gallwch hefyd:
- Anfon e-bost at: dataprotection@flintshire.gov.uk
- Ffonio: 01352 702800
- Ysgrifennu at:
Tîm Diogelu Data – Llywodraethu
Cyngor Sir y Fflint
Parc Dewi Sant
Ty Dewi Sant
Ewloe
CH5 3FF
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
Ble alla’ i gwyno os nad ydw i’n hapus?
Os nad ydych yn hapus â’r ffordd mae eich data personol wedi cael ei drin, gallwch gysylltu â’r Tîm Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion uchod.
Yn y DU, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n gwarchod hawliau gwybodaeth. Mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol iddynt. Ewch i’r dudalen: https://ico.org.uk/make-a-complaint/ neu ffoniwch 0303 123 1113.
Newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Mae gennym hawl i ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn i adlewyrchu newidiadau i’n harferion. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau sylweddol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych wrth gofrestru.
Derbyn
Drwy gofrestru ar-lein, rydych yn cydnabod eich bod wedi darllen a deall yr hysbysiad preifatrwydd.
Diolch am ymddiried ynom gyda’ch gwybodaeth.
Datblygu Chwarae Sir y Fflint