Skip to main content

Manwerthu, Hamdden a rhyddhad ardrethi lletygarwch

1Eich Manylion 2Manylion yr Ymholiad

Camgymeriadau ar y ffurflen hon

    Llwyddiant!


    Graddiwch eich profiad gan ddefnyddio ein ffurflenni

    Cliciwch ar seren isod i raddio (rhwng 1 a 5)
    Diolch am y sgôr!

    Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint i arbed amser a chadw golwg ar eich ymholiadau

    Cofrestrwch Nawr

    Eich Manylion

    Cyfeiriad

    Manylion yr Ymholiad

    Manylion yr Ymgeisydd

    Manylion Eiddo Ardrethi Busnes

    Os ydych chi’n gwneud cais ar gyfer mwy nag un eiddo busnes, rhestrwch y rhain yn nhrefn blaenoriaeth ar gyfer derbyn rhyddhad, gan nodi mai’r uchafswm rhyddhad y gellir ei ganiatáu i fusnes yng Nghymru yw £110,000. Bydd rhyddhad yn cael ei roi ar gyfer eiddo yn y drefn yr ydych wedi’u nodi

    Gellir dod o hyd i’r manylion angenrheidiol ar y bil Trethi Annomestig a anfonwyd atoch ar gyfer pob eiddo yr ydych yn dymuno hawlio rhyddhad ar ei gyfer

    Eiddo 1

    Eiddo 2

    Eiddo 3

    Eiddo 4

    Eiddo 5

    Caniateir uchafswm o 5 eiddo fesul ffurflen, cyflwynwch ffurflen arall os oes gennych fwy na 5 eiddo

    Cysylltwch â’r Swyddfa Ardrethi Busnes ar 01352 704848 a dewiswch opsiwn 2 i drafod eich cais ymhellach

    Mae’r rhan hon yn berthnasol i fusnesau sy’n gwneud cais am ryddhad gan sawl awdurdod lleol yng Nghymru yn unig. Mewn achosion o’r fath, dylid gwneud cais ar wahân i bob awdurdod lleol.

    Datganiad

    Rwy’n deall na all cyfanswm gwerth y rhyddhad a hawliwyd gan enw'r business o dan y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar draws Gymru gyfan fod yn fwy na £110,000 ac y bydd gwneud cais bwriadol i hawlio rhyddhad o dros £110,000 yn peryglu colli’r holl ryddhad a roddwyd o dan y cynllun. Rwy’n derbyn y cyfrifoldeb am roi gwybod i’m hawdurdod lleol am unrhyw newid mewn amgylchiadau, ar ôl cyflwyno fy nghais am ryddhad, a allai olygu bod y rhyddhad a roddwyd i’m busnes yn anghywir neu’n fwy na £110,000 ar draws Cymru (e.e. newid mewn gwerth trethadwy).

    Rwy’n deall, os bydd rhyddhad o fwy na £110,000 yn cael ei roi am unrhyw reswm, y bydd cyfran ohono’n cael ei hawlio’n ôl, ar gyfer un eiddo neu ragor, i leihau gwerth y rhyddhad a roddwyd i £110,000 neu lai fel sy’n briodol. Rwy’n deall hefyd, os bydd rhyddhad o fwy na £110,000 yn cael ei roi o ganlyniad i ymgais fwriadol i hawlio mwy na’r uchafswm a ganiateir, y gellir dileu’r hawl i’r Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch cyfan a ganiateir ar gyfer enw'r business ar draws Cymru, a bydd swm llawn yr atebolrwydd ardrethi yn daladwy

    Rwy’n cydnabod y bydd fy awdurdod lleol, unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru a/neu Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wiriadau priodol i asesu’r cais hwn am ryddhad ardrethi, gan gynnwys croeswirio yn erbyn unrhyw wybodaeth sydd gan yr awdurdod, unrhyw awdurdod arall yng Nghymru neu Lywodraeth Cymru eisoes. Rwy’n deall y bydd y data yr wyf wedi’u darparu yn cael eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru ac, os oes angen, unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru at y diben hwn i atal twyll a chamgymeriadau.

    O 4 Ionawr 2023, dechreuodd cynllun rheoli cymhorthdal newydd y DU pan ddaeth Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 i rym. Mae'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn debygol o fod yn gymhorthdal o dan y drefn newydd. Bydd angen i unrhyw ryddhad a ddarperir gan y Cyngor o dan y cynllun hwn gydymffurfio â rhwymedigaethau rheoli cymhorthdal domestig a rhyngwladol y DU.

    I’r graddau y mae awdurdod lleol yn bwriadu darparu rhyddhad sydd o dan y trothwyon Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA), mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn caniatáu i gyfranogwr economaidd (ee cwmni daliannol a’i is-gwmnïau) dderbyn hyd at £315,000 mewn cyfnod o 3 blynedd (sef blwyddyn 2024-25 a’r ddwy flwyddyn ariannol flaenorol). Nid oedd cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru cyn 2023-24 yn cael eu darparu fel cymhorthdal. Mae'n ofynnol i chi felly, ar sail hunanasesiad, ddatgan fel rhan o'ch cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch nad yw'r busnes yn croesi’r trothwy arian parod na’r trothwy Cymorth Ariannol Lleiaf Posibl.

    Rwy’n datgan, hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred, bod yr wybodaeth a ddarperir yn y cais hwn yn wir ac yn gywir, ac rwy’n deall y gallai rhoi ateb ffug i unrhyw un o’r cwestiynau yn y cais hwn gael ei ystyried fel twill dan Ddeddf Twyll 2006.

    Rwy’n datgan fy mod wedi fy awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr a enwir. Mae'r ffurflen wedi'i chwblhau'n gywir, hyd eithaf fy ngwybodaeth

    Nodwch – Dylech barhau i dalu'r ardrethi busnes wrth i'ch cais gael ei ystyried. Bydd hyn yn eich galluogi i leihau’r swm sy’n ddyledus os nad yw eich cais yn llwyddiannus