Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ar y ffurflen hon i asesu a phrosesu Taliad y Cynllun Cymorth Costau Byw o £150.00 i’ch cyfrif banc enwebedig ar ran Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn cadw eich data drwy gydol eich cais ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i’r taliad gael ei wneud.
Efallai y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor, awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, gwella safon y gwasanaethau rydym yn eu darparu, cyflawni unrhyw rai o’n dyletswyddau statudol a chadarnhau eich bod yn gymwys i dderbyn y taliad Costau Byw.
Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu yn rhoi gwybodaeth iddynt er mwyn:
- sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir
- atal neu ganfod troseddau
- asesu neu gasglu unrhyw dreth neu unrhyw ardrethi tebyg
- diogelu arian cyhoeddus.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd Llywodraeth Cymru yn monitro a defnyddio eich gwybodaeth ewch i https://gov.wales/website-privacy-policy