Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Bydd eich data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at y diben penodol o ddelio gyda’ch ceisiadau. Mae angen prosesu eich data personol fel rhan o’n tasg gyhoeddus. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 5 blynedd. Os bydd Cyngor Sir y Fflint yn cwblhau dadansoddiad pellach o’r ymatebion i'r ymgynghoriad, mae’n bosibl y byddwn yn comisiynu trydydd parti achrededig i ymgymryd â’r gwaith. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan: http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx