Hysbysiad Preifatrwydd Platfform Cofrestru Ar-lein Datblygu Chwarae Sir y Fflint
Diweddarwyd Ddiwethaf: 01/03/2024
Diben platfform Cofrestru Ar-lein Datblygu Chwarae Sir y Fflint yw diogelu eich preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi’i fwriadu i roi gwybod i chi sut rydym ni’n casglu, defnyddio, rhannu a gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn ystod y broses gofrestru. Darllenwch yr hysbysiad hwn yn ofalus i ddeall ein harferion.
Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir at y dibenion canlynol:
- I gofrestru cyfranogwyr ar gyfer y Ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored
- I sicrhau diogelwch a lles cyfranogwyr
- I gyfathrebu gwybodaeth bwysig yn ymwneud â Darpariaethau Chwarae Mynediad Agored
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol
Yr wybodaeth a gesglir gennym
Drwy gydol y broses gofrestru ar-lein, rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth bersonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Enw
- Dyddiad Geni
- Gwybodaeth Gyswllt (cyfeiriad, e-bost, rhif ffôn)
- Gwybodaeth Cyswllt mewn Argyfwng
- Gwybodaeth Feddygol (alergeddau, cyflyrau meddygol, anableddau)
- Gofynion Arbennig
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data?
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint yn rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gwireddu Darpariaethau Chwarae dan Erthygl 31, ynghyd ag erthyglau perthnasol eraill Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Bydd eich data categori arbennig yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dan Erthygl 9, Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Data yn ymwneud ag iechyd. Mae angen prosesu data categori arbennig, gan gynnwys budd cyhoeddus sylweddol, dan ddeddfwriaeth gwasanaethau perthnasol, gan sicrhau fod y Cyngor yn cyflawni ei dasgau cyhoeddus ac yn diogelu hawliau preifatrwydd unigolion.
Nid yw’r wybodaeth a gesglir wedi’i chyfyngu i’r enghraifft a ddarparwyd ond mae’n cynnwys y data perthnasol sydd ei angen ar gyfer perfformio tasgau cyhoeddus.
Nodwch os gwelwch yn dda, gofynnwn am gydsyniad i ymgysylltu â’n gwasanaethau, fodd bynnag, nid yw cydsyniad yn sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol.
Cadw Data
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y flwyddyn gyfredol a 6 blynedd arall at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad hwn, neu fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Yn dilyn y cyfnod cadw, byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth yn ddiogel.
Sut ydym yn rhannu eich gwybodaeth
Bydd Cyngor Sir y Fflint ond yn rhannu eich gwybodaeth â’r Gwasanaeth Brys mewn achos o argyfwng.
Eich Hawliau
Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw gan Gyngor Sir y Fflint am y flwyddyn gyfredol (dyddiad cofrestru) a chwe blynedd arall, mae gennych yr hawl i dynnu eich gwybodaeth yn ôl ar unrhyw bryd. Os hoffech chi dynnu eich gwybodaeth yn ôl, anfonwch e-bost at PlayDevelopment@flintshire.gov.uk.
Alla’ i gael copi o’r wybodaeth sydd gennych amdanaf?
Gallwch, mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth sy’n cael ei chadw a gofyn am gopïau. Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn; y ffordd hawsaf yw mynd i wefan y Cyngor a llenwi ffurflen (Ffurflen Hawliau Unigol). Gallwch hefyd anfon e-bost at dataprotection@flintshire.gov.uk, ffonio 01352 702800 neu ysgrifennu at:
Tîm Diogelu Data – Llywodraethu
Cyngor Sir y Fflint
Neadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
Ble alla’ i gwyno os nad ydw i’n hapus?
Os nad ydych yn hapus â’r ffordd mae eich data personol wedi cael ei drin, er enghraifft os ydych yn credu bod gwybodaeth amdanoch chi’n anghywir a’ch bod am ei chywiro neu os ydych yn credu ei bod wedi cael ei chamddefnyddio, gallwch anfon e-bost at dataprotection@flintshire.gov.uk, ffonio 01352 702800 neu ysgrifennu at:
Tîm Diogelu Data – Llywodraethu
Cyngor Sir y Fflint
Neadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
Yn y DU, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gwarchod hawliau gwybodaeth ac mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol iddynt os nad ydych yn hapus â’r ffordd mae’r Cyngor wedi trin eich data. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar eu gwefan ar https://ico.org.uk/make-a-complaint/ neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
Newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Mae gennym hawl i ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn i adlewyrchu newidiadau i’n harferion. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau sylweddol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt y gwnaethoch eu darparu wrth gofrestru.
Drwy gofrestru ar-lein, rydych yn cydnabod eich bod wedi darllen a deall yr hysbysiad preifatrwydd.
Diolch am ymddiried ynom gyda’ch gwybodaeth.
Datblygu Chwarae Sir y Fflint