Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond i ddibenion penodol pan fyddwch yn gwneud cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros dro. Bydd eich data’n cael ei brosesu fel tasg er budd y cyhoedd dan Erthyglau 6(3) a 9(g) - Atodlen 1, Rhan 2 (6) (2) o Ddeddf Diogelu Data 2018.
Dim ond i weinyddu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros dro y defnyddir eich gwybodaeth, er mwyn diwallu dyletswydd ymgeisydd mewn perthynas â’u cyfrifoldeb dros gynnal gweithgaredd ar y briffordd gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi eich data ar y Gorchymyn Rheoli Traffig Dros dro, a fydd yn cael ei gyflwyno i randdeiliaid a'i arddangos ar y strydoedd y bydd cyfyngiad traffig yn effeithio arnynt.
Bydd copi o’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei anfon at y rhanddeiliaid canlynol: y gwasanaethau brys, cwmnïau bysiau a chludiant, cynrychiolwyr etholedig a chynghorau tref a chymuned.
Byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio eich data ar unwaith pan nad oes angen ein gwasanaethau arnoch mwyach. Am resymau cyfreithiol, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am uchafswm o 21 mlynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx