Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond at y diben penodol o ddarparu llwyfan ar gyfer cymorth gyda recriwtio. Mae angen prosesu eich data personol at ddibenion recriwtio gan Gyflogwyr Taliad Uniongyrchol drwy’r Porth Cynorthwy-ydd Personol. Mae Taliadau Uniongyrchol yn cael eu darparu fel rhan o dasg gyhoeddus Cyngor Sir y Fflint fel y nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.)
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth gyda darpar Gyflogwyr. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth ar gyfer y cyfnod tra byddwch yn chwilio am waith ac am hyd at 6 mis o fod yn anweithredol.)
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. )
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx)