Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gweinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer Casglu Gwastraff Gardd o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth a gasglwyd gennych yn cael ei defnyddio fel a ganlyn:
I fonitro ac adrodd yn ôl ar nifer yr unigolion sy’n talu am y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint at ddibenion data ac ystadegau. Gall yr ystadegau hyn gael eu rhannu gyda chasglwyr data allanol at ddibenion adrodd.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw gwybodaeth nes bod y gwasanaeth yn cael ei ddisodli + 1 blwyddyn.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan nhw neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
Gwneir y cytundeb hwn rhwng y preswylydd (‘Cwsmer’) a Chyngor Sir y Fflint (‘y Cyngor’) o Ddepo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint, CH7 6LG, ac mae’n nodi’r Telerau ac Amodau i’r Cwsmer allu defnyddio Gwasanaeth Casglu gwastraff gardd bob pythefnos y Cyngor (‘y Gwasanaeth’). Gall y Cyngor amrywio neu newid y Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Bydd y Cwsmer yn cael rhybudd ysgrifenedig o 10 diwrnod am unrhyw newidiadau o’r fath.
Mae’r tanysgrifiad i’r Gwasanaeth yn cynnwys tâl blynyddol fel y ganlyn
Mae’r tâl hwn i’r Cwsmer ar gyfer casglu un bin gwastraff gardd brown, sydd wedi’i bennu gan y Cyngor am y cyfnod o fis Mawrth tan fis Rhagfyr. Mae prisiau tanysgrifio’n destun adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor
Dim ond ar gyfer gwastraff gardd o’r eiddo sydd wedi’i danysgrifio gan y Cwsmer mae hawl i ddefnyddio bin(iau) gwastraff gardd brown. Dim ond gwastraff gardd y gellir ei roi yn rhydd yn y bin.
Gwastraff gardd y gall y Cyngor ei gasglu: glaswellt, tocion gwrychoedd, brigau, rhisgl, dail, blodau, planhigion a changhennau bach
Dim ond yr eitemau a restrir yn dderbyniol uchod y bydd y Cyngor yn eu casglu, a bydd unrhyw beth arall yn cael ei drin fel halogiad
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd cyn i chi fwrw ymlaen.