CERBYDAU WEDI’U GADAEL
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Stryd a Chludiant ar gyfer Cerbydau Wedi’u Gadael. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu’ch data at ddibenion Cerbydau Wedi’u Gadael yn unig. Mae’n rhaid prosesu eich data personol er mwyn asesu eich cymhwysedd ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae’ch data yn cael ei brosesu fel tasg er budd y cyhoedd dan Erthyglau 6(e) a 9(g) o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (2018). Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am weddill y flwyddyn + 1 flwyddyn. Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd sydd ar ein gwefan -
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx.