Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond at ddibenion penodol prosesu eich cais gwybodaeth. Mae angen prosesu eich data personol er mwyn cwblhau eich cais gwybodaeth yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag adrannau mewnol os oes angen i gwblhau eich cais ond ni fydd yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 3 blynedd o’r dyddiad y cwblheir eich ymholiad. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr
hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.