Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond at ddibenion penodol asesu eich archeb i gael gwared ar fatresi. Mae’n rhaid prosesu eich data personol er mwyn asesu eich cymhwysedd ar gyfer y gwasanaeth hwn. Eich data sy'n cael ei brosesu fel tasg er budd y cyhoedd o dan Erthyglau 6(e) o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (2018). Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data ag unrhyw sefydliad arall. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am gyfnod o 2 flynedd, ac yna bydd yn ailasesu a oes angen y gwasanaeth o hyd. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a'ch hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx