Mae yna ddyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Sir y Fflint i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Yr ydym yn ymroddedig i ymladd yn erbyn twyll a llygredigaeth er mwyn i arian cyhoeddus gael ei wario ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned leol. Nid ydym yn goddef unrhyw dwyll, ac mae unrhyw adroddiadau o dwyll yn cael eu cymryd o ddifrif.
Gellwch gynorthwyo’r Cyngor i ymladd yn erbyn twyll drwy roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennych gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon, ac unrhyw wybodaeth ategol y darparwch i ymchwilio i unrhyw enghreifftiau neu honiadau o dwyll posibl, ac ymdrin ag ef yn effeithiol. Mae hyn yn ofynnol dan Adran 5 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn ogystal ag Adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Er ein bod yn trin pob pryder o’r fath yn hollol gyfrinachol, efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarperwch (yn hytrach na’ch manylion adnabod) gyda’r maes gwasanaeth perthnasol neu dîm Archwilio Mewnol er mwyn ymchwilio ymhellach.
Fodd bynnag, yn dibynnu ar natur yr honiad / y digwyddiad yr adroddiad amdano, mae’n bosibl y bydd yna amgylchiadau hefyd lle bydd yn rhaid rhannu eich manylion personol y tu allan i’r Cyngor gydag asiantaeth statudol allanol fel yr Heddlu, Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac ati. Gwneir hyn yn gyfrinachol er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd unrhyw un o’r asiantaethau hyn yn cysylltu â chi i geisio mwy o eglurhad neu dystiolaeth.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Cedwir cofnodion archwilio am saith mlynedd a chofnodion ymchwiliadau am 15 mlynedd. Os na ellir profi bod twyll wedi digwydd, caiff y cofnodion hyn eu cadw am saith mlynedd. Os yw’r wybodaeth wedi cael ei throsglwyddo i faes gwasanaeth neu asiantaeth allanol (fel y disgrifir uchod), bydd eu terfynau amser hwy yn berthnasol.
Am resymau cyfrinachedd, ni fyddwch yn cael gwybod am gynnydd na chanlyniad unrhyw ymchwiliad, ond efallai y byddwn yn cysylltu â chi am eglurhad neu i gael tystiolaeth bellach.
Os ydych chi’n ystyried bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gellwch gyflwyno cwyn i Swyddog Diogelu Data’r Cyngor drwy e-bostio dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk.
Gellwch hefyd gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn ystyried nad yw’r Cyngor wedi trin eich data personol yn gywir drwy fynd i’r wefan (https://cy.ico.org.uk/) neu drwy ffonio’r llinell gymorth: 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan –
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx