Gwneud Cais am Ad-daliad Credyd ar eich Cyfrif Ardrethi Busnes
Beth yw dibenion prosesu eich gwybodaeth bersonol a phwy sy’n ei phrosesu?
Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r wybodaeth hon ers mwyn gallu ad-dalu unrhyw gredyd ar eich cyfrif Ardrethi Busnes i chi. Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint yn rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol darparu ad-daliad i chi dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a’r holl reoliadau perthnasol eraill sy’n gysylltiedig ag asesu Ardrethi Annomestig.
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu?
- Manylion amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad a manylion banc
- Cyfeirnod ardrethi busnes
- Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
Gyda phwy allwn ni rannu eich gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, i wella safon y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, a chyflawni unrhyw rai o’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodi.
Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw er mwyn:
- sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
- atal neu ganfod troseddau
- asesu neu gasglu unrhyw dreth neu dollau neu unrhyw ardrethiad o natur debyg
- diogelu arian cyhoeddus
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich cofnodion?
Byddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Ardrethi Busnes ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Ardrethi Busnes ddod i ben.
Manylion Cyswllt y Rheolwr Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Llywodraethu
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
E-bost: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – Hysbysiad Preifatrwydd.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.