Ffioedd Masnach yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas - Polisi Preifatrwydd
Hysbysiad preifatrwydd Gwasanaethau Stryd a Chludiant ar gyfer ffioedd Gwastraff Masnachol yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Maes Glas
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol gweinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer gwaredu Gwastraff Masnachol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw gwybodaeth nes bod y gwasanaeth yn cael ei ddisodli + 1 blwyddyn.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.