Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon, ac
unrhyw dystiolaeth ategol y byddwch yn ei hanfon, i brosesu eich cais am Brydau Ysgol Am Ddim. Mae hyn yn ofynnol dan bolisi Prydau Ysgol Am Ddim.
Caiff y wybodaeth hon ei chadw’n ddiogel ar ein system am gyfnod o 2 mlynedd ar ôl i’ch
cais ddod i ben.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadarnhau eich cymhwysedd gyda’r ysgolion yn unig.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un arall, na’n
defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion eraill, oni bai fod y gyfraith yn
caniatáu hynny.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw
adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan
neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch
hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan -
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx