Trwyddedu Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo sydd Angen Adweithiadau Mawr
Beth yw dibenion prosesu eich gwybodaeth bersonol a phwy sy’n ei phrosesu?
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir y Fflint yn rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol ystyried eithriad Treth y Cyngor i adeiladau sydd angen gwaith atgyweirio mawr dan Orchymyn Treth y Cyngor (Anheddau Eithriedig) 1992 a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022.
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu?
- Manylion amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad, manylion eich eiddo ac amgylchiadau personol.
- Rhifau cyswllt a chyfeiriadau e-bost.
Sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio?
Bydd y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn y ffurflen hon ac unrhyw dystiolaeth ategol rydych chi’n ei darparu’n cael ei defnyddio i asesu a oes gan eich eiddo hawl i eithriad Dosbarth A ar gyfer eiddo sydd angen/sy’n rhan o waith atgyweirio mawr/addasiadau strwythurol.
Gyda phwy allwn ni rannu eich gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, i wella safon y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, a chyflawni unrhyw rai o’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodi.
Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw er mwyn:
- sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
- atal neu ganfod troseddau
- asesu neu gasglu unrhyw dreth neu dollau neu unrhyw ardrethiad o natur debyg
- diogelu arian cyhoeddus
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich cofnodion?
Fe fyddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Treth y Cyngor ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Treth y Cyngor ddod i ben.
Manylion Cyswllt y Rheolwr Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Llywodraethu
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
E-bost: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – Hysbysiad Preifatrwydd.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.