Bydd Cyngor Sir Sir y Fflint yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon, ac unrhyw dystiolaeth gefnogol a ddarperir gennych i asesu'ch atebolrwydd am Dreth Gyngor. Mae hyn yn ofynnol o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a'r holl reoliadau perthnasol eraill sy'n gysylltiedig ag asesu Treth Gyngor.
Fe fyddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Treth y Cyngor ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Treth y Cyngor ddod i ben.
Mae’n bosib y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol, er mwyn gwella safon y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac i berfformio unrhyw un o'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodi.
Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un arall, na’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion eraill, oni bai fod y gyfraith yn caniatáu hynny.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx