Fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn y ffurflen hon i alw taliadau debyd uniongyrchol o’ch cyfrif banc/cymdeithas adeiladu er mwyn talu eich Rhent Tai.
Fe fyddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Rhent Tai ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Rhent Tai ddod i ben.
Fe fydd y cyfarwyddyd hwn yn aros gyda Chyngor Sir y Fflint, ond fe fydd y manylion yn cael eu trosglwyddo'n electronig i'ch banc/cymdeithas adeiladu.
Os ydych yn teimlo fod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan -Hysbysiad preifatrwydd (siryfflint.gov.uk)