Diolch am gymryd yr amser i rannu eich syniadau. Mae eich adborth yn werthfawr i ni ac yn ein helpu i wella ein gwasanaeth.
Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint i arbed amser a chadw golwg ar eich ymholiadau
Cofrestrwch NawrMae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fo Cyngor Sir y Fflint yn casglu eich data personol.
Rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data, yn ogystal â’ch hawliau o ran cyfrinachedd a phreifatrwydd. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y data personol y bydd yn ei gadw’n gywir ac yn ddiogel er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol i chi.
Ni fyddwn yn cadw data amdanoch oni bai bod hynny’n cydymffurfio â’r gyfraith. Byddwn hefyd ond yn casglu'r data sy’n angenrheidiol a phan na fydd angen cadw’r data hwnnw, byddwn yn cael gwared arno mewn modd diogel.
Mae gennym Swyddog Diogelu Data sy’n sicrhau ein bod yn parchu eich hawliau ac yn cydymffurfio â’r gyfraith. Os oes gennych bryderon o ran sut rydym yn diogelu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data, Alun Kime, drwy anfon e-bost at dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 702802.
Beth yw data personol?
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag adnabod unigolyn byw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys data, pan fo’n cael ei gyfuno â data arall, y gellir ei ddefnyddio i adnabod person. Er enghraifft eich enw a’ch manylion cyswllt.
A wyddoch chi fod rhywfaint o’ch data personol yn cael ei ystyried yn ‘arbennig’?
Ystyrir rhywfaint o ddata yn arbennig ac mae arno angen mwy o ddiogelwch oherwydd ei natur sensitif. Yn aml mae’r data yn bersonol iawn i chi, ac ni fyddech yn disgwyl neu eisiau i'r wybodaeth fod yn hysbys i eraill. Mae hyn cynnwys unrhyw ddata a all ddatgelu eich:
Pam ein bod ni angen eich data personol?
Rydym angen defnyddio peth o’r wybodaeth amdanoch i:
Mae’n rhaid i ni gael rheswm cyfreithiol dros brosesu eich data personol. Yn gyffredinol, rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol pan:
Wrth gasglu eich data, bydd y Cyngor yn eich hysbysu ynglŷn â:-
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?
Rydym yn defnyddio ystod o sefydliadau i’n helpu ni i ddarparu ein gwasanaethau, lle bo’r trefniadau hynny ar waith, mae cytundeb mewn lle bob amser i sicrhau bod y sefydliadau hynny yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data.
Mae gennym weithiau ddyletswydd gyfreithiol i rannu data personol â sefydliadau eraill. Mae hyn yn aml ar gais y llysoedd pan:
Efallai y byddwn angen rhannu eich data personol pan rydym ni o’r farn bod rheswm sy’n bwysicach na diogelu eich preifatrwydd.
O ran yr holl resymau uchod, mae’n rhaid i’r risg fod yn ddifrifol iawn cyn y gallwn ddiystyru eich hawl i breifatrwydd.
Trosglwyddo data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd
Bydd y Cyngor ond yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn cydymffurfedd â Phennod V Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Gall trosglwyddiadau gael eu gwneud pan fo’r Comisiwn wedi penderfynu bod trydedd gwlad (gwlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd), tiriogaeth neu sector/ sectorau penodol yn y wlad honno, neu sefydliad rhyngwladol, yn gallu sicrhau a phrofi bod hawliau unigolion yn cael eu diogelu gan ganllawiau diogelu digonol.
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data personol yn ddiogel?
Mae’r Cyngor yn diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd neu ddatgeliad heb ei awdurdodi. Mae’r Cyngor yn diogelu'r data personol rydych yn ei ddarparu ar weinyddwyr cyfrifiadur mewn amgylchedd diogel rheoledig, wedi’i warchod rhag fynediad, defnydd neu ddatgeliad heb ei awdurdodi.
Byddwn efallai yn cadw eich data personol yn defnyddio darparwyr cwmwl o’r Undeb Ewropeaidd, ond dim ond pan fo trefniad prosesu data mewn lle sy’n cydymffurfio â rhwymedigaethau sy’n gyfwerth â rhai’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Menter Genedlaethol Twyll
Mae’n rhaid i’r Cyngor, yn ôl y gyfraith, ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, gallwn felly rannu eich data personol â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus i atal ac i ddarganfod twyll.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol, o dan ei bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, i’r holl awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth mae’n ei chadw at y diben hwn. Mae’r data yn cael ei rannu â Swyddfa Archwilio Cymru/y Comisiwn Archwilio.
Hawliau Unigolion
Mae gan unigolion hawliau penodol mewn perthynas â’u data personol eu hunain, sef (ceir rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’ch hawliau, gan gynnwys sut i wneud cais ar ein Tudalen Diogelu Data);
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd o’ch data, gan gynnwys sut i wneud cais dan hawliau’r unigolyn uchod ewch i’n Tudalen Diogelu Data neu cysylltwch â’n Tîm Llywodraethu Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion isod:-
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth Llywodraethu Cyngor Sir y Fflint Neuadd y Sir Yr Wyddgrug Sir y Fflint CH7 6NR
E-bost: dataprotection@flintshire.gov.uk
Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, Alun Kime, gan ddefnyddio’r manylion canlynol:-
E-bost: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
Cwynion
Os ydych chi o'r farn bod y Cyngor wedi trin eich data yn annheg neu’n anghyfreithlon, gallwch wneud cwyn i’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth drwy ddefnyddio’r ddolen isod:-
Gweithdrefn Gwyno Diogelu Data
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon â’r ffordd y mae’r Cyngor wedi trin eich data personol, efallai y byddech yn dymuno cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy:-