Diolch am gymryd yr amser i rannu eich syniadau. Mae eich adborth yn werthfawr i ni ac yn ein helpu i wella ein gwasanaeth.
Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint i arbed amser a chadw golwg ar eich ymholiadau
Cofrestrwch NawrHysbysiad preifatrwydd
Mae’r
Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fo Cyngor Sir
y Fflint yn casglu eich data personol.
Rydym
wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data, yn ogystal â’ch
hawliau o ran cyfrinachedd a phreifatrwydd. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y data
personol y bydd yn ei gadw’n gywir ac yn ddiogel er mwyn darparu gwasanaethau
effeithiol i chi.
Ni
fyddwn yn cadw data amdanoch oni bai bod hynny’n cydymffurfio â’r gyfraith.
Byddwn hefyd ond yn casglu'r data sy’n angenrheidiol a phan na fydd angen
cadw’r data hwnnw, byddwn yn cael gwared arno mewn modd diogel.
Mae
gennym Swyddog Diogelu Data sy’n sicrhau ein bod yn parchu eich hawliau ac yn
cydymffurfio â’r gyfraith. Os oes gennych bryderon o ran sut rydym yn diogelu
eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy anfon
e-bost
at dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk neu
ffonio 01352 702802.
Beth yw data personol?
Data
personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag adnabod unigolyn byw yn
uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys data, pan fo’n cael ei
gyfuno â data arall, y gellir ei ddefnyddio i adnabod person. Er enghraifft
eich enw a’ch manylion cyswllt.
A wyddoch chi fod
rhywfaint o’ch data personol yn cael ei ystyried yn ‘arbennig’?
Ystyrir
rhywfaint o ddata yn arbennig ac mae arno angen mwy o ddiogelwch oherwydd ei
natur sensitif. Yn aml mae’r data yn bersonol iawn i chi, ac ni fyddech yn
disgwyl neu eisiau i'r wybodaeth fod yn hysbys i eraill. Mae hyn cynnwys unrhyw
ddata a all ddatgelu eich:
·
Rhywioldeb neu Iechyd Rhywiol
·
Credoau Crefyddol neu Athronyddol
·
Ethnigrwydd
·
Hil
·
Iechyd Corfforl neu Iechwyd Meddwl
·
Aelodaeth Undeb Llafur
·
Barn Wleidyddol
·
Data Genetig neu Fiometrig
·
Hanes Troseddol
Pam ein bod ni angen
eich data personol?
Rydym
angen defnyddio peth o’r wybodaeth amdanoch i:
·
Ddararu gwasanaethau a chymorth i chi
·
Rheoli'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi
·
Rheoli’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi
·
Hyfforddi a rheoli ein gweithwyr sy’n darparu’r
gwasanaethau hynny
·
Ymchwilio i unrhyw gŵyn neu bryder sydd
gennych am ein gwasanaethau
·
Cadw golwg ar ein gwariant
·
Monitro safon ein gwasanaethau
·
Ymchwilio a chynllunio ar gyfer gwasanaethau
newydd neu newidiadau i wasanaethau presennol
Mae’n
rhaid i ni gael rheswm cyfreithiol dros brosesu eich data personol. Yn
gyffredinol, rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol pan:
·
Rydych chi, neu gynrychiolydd cyfreithiol, wedi
rhoi caniatâd i wneud hynny
·
Rydych wedi mynd i gontract neu'n cymryd camau
i fynd i gontract gyda ni
·
Mae’n angenrheidiol er mwyn cyflawni ein
dyletswyddau statudol
·
Mae’n angenrheidiol i ddiogelu rhywun mewn
argyfwng
·
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith• Mae’n
angenrheidiol at ddibenion cyflogaeth
·
Mae’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau
iechyd neu ofal cymdeithasol
·
Mae’n angenrheidiol ar gyfer achosion
cyfreithiol
·
Mae er budd y cyhoedd a’r gymdeithas gyfan
·
Mae’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd
·
Mae’n angenrheidiol at ddibenion hanesyddol,
ystadegol neu ymchwil
·
Wrth gasglu eich data, bydd y Cyngor yn eich
hysbysu ynglŷn â:-
Pham
a sut y byddwn yn prosesu eich data:
·
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data
·
Os fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu ag
unrhyw drydydd parti
·
Os fydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i
drydedd gwlad (tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd) gan gynnwys y camau
diogelwch sydd yn eu lle i ddiogelu eich data
·
Pa mor hir fydd yr wybodaeth yn cael ei chadw
·
Eich hawliau fel unigolyn, gan gynnwys cael
mynediad at eich data
·
Eich hawl i dynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg,
lle bo hynny’n berthnasol
·
Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd
Gwybodaeth
·
Y canlyniadau posibl os ydych yn dewis peidio â
darparu eich data
·
Os fydd penderfyniad neu broffilio awtomataidd
yn cael ei wneud gan ddefnyddio eich data
Gyda phwy rydym yn
rhannu eich gwybodaeth?
Rydym
yn defnyddio ystod o sefydliadau i’n helpu ni i ddarparu ein gwasanaethau, lle
bo’r trefniadau hynny ar waith, mae cytundeb mewn lle bob amser i sicrhau bod y
sefydliadau hynny yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data.
Mae
gennym weithiau ddyletswydd gyfreithiol i rannu data personol â sefydliadau
eraill. Mae hyn yn aml ar gais y llysoedd pan:
·
Rydym yn rhoi plentyn mewn gofal
·
Rydym yn cael ein gorfodi i ddarparu’r
wybodaeth gan y llys
·
Mae unigolyn yn cael ei roi mewn gofal dan y
gyfraith iechyd meddwl
Efallai
y byddwn angen rhannu eich data personol pan rydym ni o’r farn bod rheswm sy’n
bwysicach na diogelu eich preifatrwydd.
·
Er mwyn canfod ac atal trosedd
·
Os oes risgiau difrifol i’r cyhoedd, ein staff
neu weithwyr proffesiynol eraill
·
I ddiogelu plentyn neu oedolyn sydd mewn perygl
O
ran yr holl resymau uchod, mae’n rhaid i’r risg fod yn ddifrifol iawn cyn y
gallwn ddiystyru eich hawl i breifatrwydd.
Trosglwyddo data y tu
allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd
Bydd
y Cyngor ond yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd
Ewropeaidd mewn cydymffurfedd â Phennod V Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Gall trosglwyddiadau gael eu gwneud pan fo’r Comisiwn wedi penderfynu bod
trydedd gwlad (gwlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd), tiriogaeth
neu sector/ sectorau penodol yn y wlad honno, neu sefydliad rhyngwladol, yn
gallu sicrhau a phrofi bod hawliau unigolion yn cael eu diogelu gan ganllawiau
diogelu digonol.
Sut mae’r Cyngor yn cadw
eich data personol yn ddiogel?
Mae’r
Cyngor yn diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd neu
ddatgeliad heb ei awdurdodi. Mae’r Cyngor yn diogelu'r data personol rydych yn
ei ddarparu ar weinyddwyr cyfrifiadur mewn amgylchedd diogel rheoledig, wedi’i
warchod rhag fynediad, defnydd neu ddatgeliad heb ei awdurdodi.
Byddwn
efallai yn cadw eich data personol yn defnyddio darparwyr cwmwl o’r Undeb
Ewropeaidd, ond dim ond pan fo trefniad prosesu data mewn lle sy’n cydymffurfio
â rhwymedigaethau sy’n gyfwerth â rhai’r Rheoliadau Diogelu Data
Cyffredinol.
Menter Genedlaethol
Twyll
Mae’n
rhaid i’r Cyngor, yn ôl y gyfraith, ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei
weinyddu, gallwn felly rannu eich data personol â chyrff eraill sy’n gyfrifol
am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus i atal ac i ddarganfod twyll. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei gwneud
yn ofynnol, o dan ei bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
2004, i’r holl awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth mae’n ei chadw at y diben
hwn. Mae’r data yn cael ei rannu â Swyddfa Archwilio Cymru/y Comisiwn Archwilio.
Hawliau Unigolion
Mae
gan unigolion hawliau penodol mewn perthynas â’u data personol eu hunain, sef
(ceir rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’ch hawliau, gan gynnwys sut i wneud cais
ar ein Tudalen Diogelu Data);
1.
Hawl i Gael
Gwybod
- Mae hyn yn pwysleisio’r angen am dryloywder o ran y ffordd y mae’r Cyngor yn
defnyddio eich data personol, gwneir hyn
fel arfer drwy hysbysiad preifatrwydd pan gesglir eich data.
2.
Hawl i
Fynediad
– Mae gan unigolion yr hawl i dderbyn cadarnhad bod eu data yn cael ei brosesu
a chael mynediad at eu data personol a gedwir gan y Cyngor.
3.
Hawl i Gywiro – Mae gan
unigolion yr hawl i gywiro eu data personol os yw’n anghyflawn neu’n anghywir.
4.
Hawl i Ddileu – Gelwir hyn
hefyd yn ‘hawl i gael eich anghofio’. Mae hyn yn galluogi unigolion i wneud
cais i’r Cyngor ddileu neu waredu eu data personol lle nad oes rheswm cymhellol
dros ei brosesu ymhellach.
5.
Hawl i
Gyfyngu ar Brosesu – Mae gan unigolion yr hawl i ‘flocio’ neu atal data personol rhag cael ei
brosesu lle nad oes rheswm cymhellol dros ei brosesu ymhellach. Pan fo prosesu
wedi’i gyfyngu, bydd gan y Cyngor yr hawl i storio eich data personol ond nid
ei brosesu ymhellach, a bydd ond yn cadw digon o ddata amdanoch i sicrhau bod y
cyfyngiad yn cael ei barchu yn y dyfodol.
6.
Hawl i Gludadwyedd
Data
– Mae gan unigolion yr hawl i gadw ac ailddefnyddio eu data personol at eu dibenion eu hunain ar draws
gwasanaethau gwahanol. Mae’n caniatáu iddynt symud, copïo neu drosglwyddo data
personol o un amgylchedd TG i un arall mewn ffordd ddiogel, heb amharu ar
ddefnyddioldeb.
7.
Hawl i
Wrthwynebu
– Mae gan unigolion yr hawl i wrthwynebu i brosesu yn seiliedig ar ddiddordebau
neu ar berfformiad tasg sydd o fudd i'r cyhoedd/ arferion o awdurdod swyddogol,
marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio) a phrosesu
at ddibenion ymchwil wyddonol/ hanesyddol neu ddibenion ystadegol.
8.
Hawliau mewn
perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio’n awtomataidd - Mae’r hawliau hyn yn diogelu unigolion yn
erbyn y risg o wneud penderfyniad a allai fod yn niweidiol heb ymyriad dynol.
Gwybodaeth Bellach
I
gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd o’ch data, gan gynnwys sut i wneud cais dan
hawliau’r unigolyn uchod ewch i’n Tudalen Diogelu Data neu cysylltwch â’n Tîm
Llywodraethu Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion isod:-
Tîm
Llywodraethu Gwybodaeth
Llywodraethu
Cyngor Sir
y Fflint
Neuadd y Sir
Yr
Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
E-bost: dataprotection@flintshire.gov.uk
Fel
arall, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, Alun Kime, gan
ddefnyddio’r manylion canlynol:-
E-bost:
dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
Cwynion
Os
ydych chi o'r farn bod y Cyngor wedi trin eich data yn annheg neu’n
anghyfreithlon, gallwch wneud cwyn i’r
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth drwy ddefnyddio’r ddolen isod:-
Gweithdrefn Gwyno
Diogelu Data
Sefydlwyd
y weithdrefn yn arbennig i ddelio â chwynion yn ymwneud â gweithredu Deddf
Diogelu Data yng Nghyngor Sir y Fflint. Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae
unrhyw fater Diogelu Data yn berthnasol i chi wedi cael ei drin a’ch bod yn
anfodlon â’r sefyllfa wedi trafodaeth gyda’r swyddog yn delio â'r mater yna
byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio'r weithdrefn ganlynol.
I gwyno
Cysylltwch
â’r Swyddfa Diogelu Data ar: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
neu
Swyddog
Diogelu Data
Llywodraethwr
Gwybodaeth
Neuadd
y Sir
Yr
Wyddgrug
CH7
6NA
01352
702802
Ar ôl derbyn eich cwyn
Byddwn
yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich cwyn ac yn ystyried y ffordd orau
o ddelio â'r achos. Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 7 diwrnod gwaith o sut y
byddwn yn delio â’r gwyn gydag amserlen o bryd y byddwn yn ymateb i’r gwyn. Os
nad yw amserlenni wedi eu dynodi yn cael eu cwrdd byddwch yn derbyn eglurhad am
hyn ac amserlen newydd.
Camau gweithredu pellach
Os
ydych yn parhau i fod yn anfodlon gyda’r amser y mae’r Cyngor yn ei gymryd I ddelio
â’ch cwyn neu gyda’n ymateb yna gallwch fynd â’r mater ymhellach gyda’r Comisiynydd
Gwybodaeth trwy gysylltu â: casework@ico.org.uk
neu
Information
Commissioner’s Office
Wycliffe
House
Water
Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9
5AF
0303
123 1113