Caiff eich data ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond ar gyfer y dibenion penodol o brosesu eich cais am le ysgol yn unol â Chodau statudol a wnaed dan Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gydag ysgolion, Adrannau Cyngor eraill, awdurdodau lleol eraill, y GIG, a’r Heddlu, at ddiben prosesu eich cais. Caiff lleoedd eu dyrannu mewn ysgolion yn unol â pholisi’r Cyngor.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth derbyniadau ysgolion tan ben-blwydd eich plentyn yn 25 oed.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan