Diolch am gymryd yr amser i rannu eich syniadau. Mae eich adborth yn werthfawr i ni ac yn ein helpu i wella ein gwasanaeth.
Cael problemau wrth ddefnyddio ein eformau newydd?
Gadewch inni wybod am chwilod gan clicio yma
Hysbysiad Preifatrwydd
Diben yr Arolwg
Diben yr arolwg hwn yw cael cipolwg ar brif bryderon landlordiaid lleol ynglŷn â rhentu preifat, a chanfod pa wasanaethau yr hoffai landlordiaid lleol i’r cyngor eu cynnig wrth i ni greu Adran Rhentu Preifat a swydd Swyddog Cyswllt Landlordiaid.
Data a Ddarperir
Mae’r arolwg yn casglu dau fath o wybodaeth, sef data dienw a data personol dewisol er mwyn gadael i ni gysylltu â chi yn y dyfodol.
Data Dienw'r Arolwg
Mae rhan helaeth yr arolwg yn cynnwys cwestiynau amlddewis, a dydi'r rhain ddim yn cynnwys data sy'n datgelu pwy yw'r ymatebwr. Mae nifer fechan o gwestiynau yn cynnig dewisiadau i chi ysgrifennu eich atebion eich hun. Gofynnwn i chi beidio â defnyddio’r meysydd hyn i roi gwybodaeth bersonol, dim ond gwybodaeth neu farn sy’n berthnasol i’r cwestiwn.
Data Personol Dewisol
Ar ddiwedd yr arolwg, gallwch ddewis rhoi eich enw, rhif ffôn ac/neu gyfeiriad e-bost, os ydych chi’n dymuno i ni gysylltu â chi ynglŷn â gwasanaethau sy’n cael eu creu yn y dyfodol fel rhan o’r arolwg hwn.
Prosesu Data
Drwy roi’r wybodaeth hon, rydych chi’n caniatáu i Gyngor Sir y Fflint brosesu eich data (manylion cyswllt ac ymatebion i’r arolwg) yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Bydd data dienw'r arolwg yn cael ei gadw er dibenion dadansoddi’r data am gyfnod amhenodol o amser (hyd nes na fyddwn ni ei angen mwyach). Os ydych chi wedi dewis rhoi eich manylion cyswllt er mwyn cael gwybod am wasanaethau’r dyfodol, bydd y data hwn yn cael ei gadw am gyfnod o dair blynedd.
Ni fyddwn yn rhannu eich data ag unrhyw un arall. Os byddwch chi’n newid eich meddwl ac eisiau tynnu eich caniatâd i ni brosesu eich data personol yn ôl ar unrhyw adeg, ffoniwch ni ar 01352 703777 neu anfonwch neges e-bost atom: Landlord.Support@flintshire.gov.uk
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.