Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data at ddibenion penodol amcanion y gwasanaeth Cynllun Prydlesu Cymru yn unig. Mae eich data personol yn cael ei brosesu gyda’ch caniatâd chi fel bo angen i adolygu a phrosesu eich cais ar gyfer Cynllun Prydlesu Cymru.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 5 mlynedd ar ôl dyddiad y cytundeb hwn, ac yna’n ei ddileu o systemau storio TG.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i’r Swyddog Diogelu Data drwy anfon e-bost at
dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
neu gallwch gyflwyno cwyn drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Llywodraethu Gwybodaeth, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein
gwefan.