Cofrestru
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd cyn i chi fwrw ymlaen.
Cyfeirnod Cwsmer CRM
Os ydych chi wedi cyflwyno ymholiad drwy e-ffurflen ar wefan Sir y Fflint byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod yr ymholiad wedi ei dderbyn. Mae’r neges e-bost honno yn cynnwys dau gyfeirnod, yr un cyntaf yw eich “Cyfeirnod Cwsmer” ar ffurf dechrau “CR1803-012345" a’r ail un yw "Cyfeirnod yr Ymholiad” sydd ar ffurf "1803-012345". Y rhif cyntaf, sy’n dechrau gyda CR yw eich Cyfeirnod Rheoli Cyswllt Cwsmer. Os ydych chi’n ei fewnbynnu yma mae’n rhaid i chi nodi’r cyfeirid e-bost y bu i chi ei ddefnyddio i gyflwyno’r ymholiad hwnnw neu ni fydd y system yn gadael i chi gofrestru.
Hysbysiad Preifatrwydd
- Caiff y data y byddwch yn ei ddarparu wrth gofrestru ar gyfer y Porth Cwsmeriaid ond ei ddefnyddio at ddibenion penodol gweinyddu Porth Cwsmeriaid Sir y Fflint. Cedwir y data nes eich bod yn datdanysgrifio o’r gwasanaeth drwy ofyn am gael tynnu eich cofnodion Cyfrif Cwsmer drwy’r ddolen “Rheoli Proffil” ar y Porth Cwsmeriaid.
- Bydd y manylion rydych chi’n eu darparu yn cael eu cadw ar ein system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid at ddibenion darparu gwasanaethau Cyngor perthnasol i chi drwy’r Porth Cwsmeriaid, ac ni chânt eu rhannu gydag unrhyw drydydd parti. Cedwir y system Rheoli Cyswllt Cwsmeriaid mewn canolfannau data sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint.
- Ewch i http://www.flintshire.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx i gael manylion llawn eich hawliau unigol a phwy i gysylltu â nhw os byddwch yn anhapus gyda'r ffordd y cafodd eich gwybodaeth ei thrin.
Cyfrinair
Mae’n rhaid i gyfrineiriau fod yn isafswm o 6 nod ac mae’n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un priflythyren, un llythyren fach, un rhif ac un symbol (e.e. !, $, %...)
Y rheswm dros gymhlethdod y cyfrinair yw bod gan Lywodraeth Leol asesiadau diogelwch blynyddol llym iawn y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw. Mae un o’r elfennau sy’n cael ei asesu yn ymwneud â sut yr ydym yn fformatio cyfrineiriau er mwyn darparu’r diogelwch gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid a'r wybodaeth gysylltiedig. Ar gyfer hyn rydym yn dilyn canllawiau arferion gorau Canolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch (NCSC). Mae niferoedd cynyddol o safleoedd masnachol yn awr yn dilyn y canllawiau hyn. Mae Diogelwch Gwybodaeth o bwysigrwydd mawr i ni ac rydym yn ceisio cydbwyso risg a chymhlethdod gyda phrofiad y cwsmer.