Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth ar gyfer Ffurflen Gais Pas Parcio Parc Ailgylchu
Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion penodol Ffurflen Gais ar gyfer Pàs Parcio Parc Ailgylchu yn unig. Mae’n rhaid prosesu eich data personol er mwyn asesu eich cymhwysedd ar gyfer y gwasanaeth hwn. Eich data sy'n cael ei brosesu fel tasg er budd y cyhoedd o dan Erthyglau 6(e) a 9(g) o'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (2018). Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data ag unrhyw sefydliad arall. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data hyd at ddyddiad penodol oni hysbysir yn wahanol. Bydd yr Awdurdod Trwyddedau yn sicrhau bod y gofrestr ar gael i’w harchwilio, bob amser rhesymol ac yn rhad ac am ddim. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a'ch hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx