Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at ddibenion penodol i weinyddu a phrosesu eich cofrestriad ar gyfer Cymorth Casglu a Gwaredu Gwastraff o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adran 33 a 34.
Bydd eich data categori arbennig (meddygol ac iechyd) yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint o dan Erthygl 9; (g) mae angen prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd paragraff 12 o ofynion rheoleiddio atodlen 1 o Ddeddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r wybodaeth a nodwyd ar y Ffurflen Gofrestru am y flwyddyn bresennol, a 7 blynedd ychwanegol.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan nhw neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan -
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/ContactUs/Privacy-Notice.aspx