Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn y ffurflen hon, i’ch cofrestru i gael galwad yn ôl gan y tîm Budd-dal Tai. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu yn rhan o’n tasg gyhoeddus fel sy’n ofynnol dan Reoliadau Budd-dal Tai a Threth y Cyngor 2006 – Rheoliad 112. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel ar ein system nes byddwn wedi cysylltu â chi ac yna bydd y ffurflen hon yn cael ei dileu o’r system. Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi i unrhyw un arall, nac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at unrhyw ddiben arall, oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau chi, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan –