Pan fyddwch yn llenwi ffurflen gais ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol, bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at y dibenion canlynol yn unig;
- Prosesu eich cais ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol
- Cynnal trafodion eiddo perthnasol megis; Prydles / Trwydded / Caffael / Gwaredu / Hawddfraint / Fforddfraint
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’n tasg gyhoeddus o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac o dan Ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (CGLlSFf), a fydd yn cysylltu â chi i helpu gyda llunio achos busnes ar gyfer cefnogi eich cais. Mae CGLlSFf yn gwneud y gwaith hwn ar ran Cyngor Sir y Fflint ond Cyngor Sir y Fflint yw’r rheolydd data o hyd.
Bydd eich data hefyd yn cael ei rannu ag asiantaethau perthnasol yn ôl yr angen er mwyn cael y cyllid perthnasol, ac asesu a chwblhau’r broses o drosglwyddo tir neu eiddo. Gallai’r asiantaethau hyn gynnwys;
- Cynghorau Gwirfoddol y Sir
- Cyllidwyr
- Arferion cyfreithiol ar gyfer cefnogi ar sail pro-bono i arwain ymgeiswyr
- Comisiwn Elusennau
- Cwmpas
- Syrfewyr ynni
Caiff eich data hefyd ei rannu â Chynghorwyr enwebedig a/neu banelwyr cymunedol sy'n asesu addasrwydd y ceisiadau ar y cyd.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’ch gwybodaeth am 15 mlynedd o’r dyddiad cwblhau os bydd eich cais yn llwyddiannus ac am 5 mlynedd os na fydd eich cais yn llwyddiannus.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol chi ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol, a’ch hawliau, gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx.
Gall Cyngor Sir y Fflint geisio gwirio unrhyw wybodaeth a ddarperir. Os canfyddir bod unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn ffug, yn gamarweiniol neu ar goll, gall hyn arwain at yr Awdurdod yn penderfynu peidio â symud ymlaen ymhellach.