Bydd eich data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint i bwrpas penodol ymdrin â’ch ymholiad etholiadau. Mae angen prosesu eich data personol fel rhan o’n tasg gyhoeddus fel y nodwyd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a’r rheoliadau cysylltiedig. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch nac unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn eu darparu am bobl eraill i unrhyw un arall nac unrhyw sefydliad arall oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny. Mae’n rhaid i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol / Swyddog Canlyniadau brosesu eich data personol mewn perthynas â pharatoi ar gyfer Etholiadau a’u cynnal. Bydd eich manylion yn cael eu cadw a’u diweddaru yn unol a’n rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn unol â chyfnodau cadw statudol. Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol / Swyddog Canlyniadau yn cadw polisi cadw dogfennau ar wahân. Os ydych yn teimlo bod Cyngor Sir Y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ymweld â’u gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.