Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn defnyddio’r data a ddarperir naill ai i:
- Ddiweddaru cofnodion eich aelodaeth neu archeb os trefnwyd y rhain yn wreiddiol gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
- Sicrhau bod Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn gallu cysylltu â chi ynglŷn ag aelodaeth gyfredol, archebion neu ddigwyddiadau
- Trosglwyddo eich manylion i’r tîm perthnasol yn Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint os yw eich ymholiad yn ymwneud ag aelodaeth newydd, archeb neu ddigwyddiad.
Bydd y data sydd ar y ffurflen hon yn cael eu hychwanegu i’r cofnodion perthnasol sydd gan Lyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint a’u cadw’n unol â’r cyfnod cadw. Dilëir y ffurflen hon cyn gynted ag y bydd hynny’n digwydd, a bydd yn cael ei chadw am ddim hwy na 6 mis o ddyddiad ei chyflwyno i Lyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint. Prosesir y data sy’n ymwneud â’ch aelodaeth, archeb neu ddigwyddiad ar sail contract. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r defnydd hwn o ddata, cysylltwch â LlHSyF@siryfflint.gov.uk neu SwyddfaDiogeluData@siryfflint.gov.uk.
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fo
Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn prosesu eich data personol ar gyfer gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd.
Y data a gasglwn amdanoch chi
Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn casglu categorïau amrywiol o
wybodaeth bersonol, yn dibynnu ar y gwasanaethau yr ydych yn eu defnyddio. Wrth benderfynu ar ba wybodaeth bersonol
i’w chasglu, ei defnyddio a’i chadw, mae Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn ymroddedig i sicrhau y
byddwn:
- Yn casglu, storio a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny’n
unig;
- Yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel a saff;
- Yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel pan nad oes ei hangen bellach;
- Yn dryloyw gyda chi ynglŷn â sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth a chyda phwy yr ydym yn ei rhannu;
a
- Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r hysbysiad
preifatrwydd hwn yn unig.
Sut ydym yn defnyddio eich data personol
Yr ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i sicrhau
ein bod yn rhoi gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd diogel a llawn mwynhad i chi, i reoli ein cyfrifon cwsmeriaid
yn effeithiol, ac, os ydych yn cytuno, i gysylltu â chi am gynhyrchion a gwasanaethau eraill a gynigiwn yr
ydym yn meddwl a fyddai o ddiddordeb i chi.
Ar gyfer gwasanaethau llyfrgell, prosesir eich data personol yn rhan o’n tasg gyhoeddus dan Ddeddf
Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1964 i ddarparu gwasanaethau llyfrgell.
Ar gyfer gwasanaethau hamdden, prosesir eich data personol er mwyn cyflawni contract rhyngom.
A ydych yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol?
Pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’n gwasanaethau llyfrgell mae
eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel ar system rheoli llyfrgelloedd a rennir sy’n storio
cofnodion y benthyciwr ar gronfa ddata. Mae hon yn bartneriaeth rhwng awdurdodau Llyfrgelloedd Cymru. Mae ein
gwasanaethau yn cydweithio i rannu costau a chynnig gwasanaethau gwell i gwsmeriaid. Ni fydd Llyfrgelloedd a Hamdden
Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw drydydd parti, oni bai bod angen gwneud hynny’n
ôl y gyfraith.
Am faint ydych chi’n cadw fy ngwybodaeth bersonol?
Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn cadw eich
gwybodaeth am 6 mlynedd o ddyddiad ei chasglu, oni bai bod yr wybodaeth yn ymwneud â chofnodion Iechyd a
Diogelwch ar gyfer plant dan 18 mlwydd oed. Yn yr amgylchiadau hyn cedwir eich gwybodaeth am 3 blynedd ar ôl
i’r plentyn gael ei ben-blwydd yn 18 mlwydd oed.
Dewisiadau cyfathrebu
Cwsmeriaid sydd yn dewis optio i mewn ac yn cytuno i dderbyn gwybodaeth farchnata am
ddigwyddiadau neu wasanaethau yr ydym ni’n eu cynnig fydd y cyntaf i glywed am:
- Wasanaethau, dosbarthiadau a gweithgareddau newydd
- Lleoedd sydd ar gael mewn sesiynau poblogaidd
- Dyddiadau talu am gyrsiau
- Cynigion arbennig a gostyngiadau
Os credwch fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gellwch wneud cwyn i
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’r wefan neu drwy ffonio’r llinell gymorth ar 0303 123
1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch
ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan –
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd
Yr ydym yn parhau i adolygu ein Hysbysiad Preifatrwydd a byddwn yn rhoi
unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2024.