Fe fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddiben sefydlu Fy Nghyfrif er mwyn i chi allu cadw eich manylion er mwyn rhyngweithio’n gynt gyda’n ffurflenni a gwasanaethau eraill ac er mwyn i chi adolygu hanes eich trafodion ar-lein gyda’r Cyngor.
Er mwyn i’r Cyngor ddarparu’r gwasanaeth hwn i chi, mae’n rhaid i chi roi eich caniatâd i ni i gadw eich gwybodaeth bersonol o dan Erthygl 6(1)(a) Deddf Diogelu Data 2018 (GDPR).
Fe all Cyngor Sir y Fflint rannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau eraill (e.e. asiantaethau gorfodi’r gyfraith) pan fo’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i wneud hynny - gall hyn gynnwys darparu data personol i gefnogi darganfod ac atal trosedd, neu i amddiffyn cronfeydd cyhoeddus.
Gall eich data hefyd gael ei rannu gyda’r adrannau perthnasol o fewn y Cyngor er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaethau rydych eu hangen.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 6 blynedd.
Mae gennych yr hawl i ofyn am i’ch gwybodaeth gael ei dileu. Cysylltwch â dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
Os ydych chi’n credu fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gan gynnwys sut i dynnu eich caniatâd yn ôl darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx