Caiff eich data ei brosesu gan Gyngor Sir Y Fflint ar gyfer y diben penodol o asesu a yw’r niwsans swn statudol a adroddwyd gennych wedi digwydd. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer dibenion Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r dasg er budd y cyhoedd neu yn yr arfer o awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr.
Cedwir eich gwybodaeth am y flwyddyn bresennol a 6 arall yn dilyn cwblhau'r ymchwiliad. Ni rennir eich gwybodaeth.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir Y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ymweld â’r wefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
Am fwy o wybodaeth am y ffordd mae Cyngor Sir Y Fflint yn prosesu data personol ac eich hawliau gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan:
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx