Hysbysiad Preifatrwydd i Arweinwyr Urddas Mislif mewn Ysgolion a Lleoliadau Cymunedol
Fel Arweinwyr Urddas Mislif, bydd angen i Gyngor Sir y Fflint gasglu eich enw, teitl eich swydd, eich cyfeiriad e-bost gwaith, eich rhif ffôn gwaith, ac enw a chyfeiriad eich lleoliad.
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel buddiant dilys er y dibenion penodol dan ddyletswydd yr awdurdod lleol i gynnig nwyddau mislif am ddim i bobl ifanc a’r gymuned, fel y diffinnir yn y polisi a’r strategaeth, Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o'r Mislif.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gyda Cheeky Baby Products Ltd. Bydd yn gwneud hyn er mwyn i Cheeky Baby Products Ltd allu cyfathrebu â chi’n uniongyrchol ynglŷn ag archebu a danfon nwyddau mislif.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am 3 mis wedi i’r prosiect ddod i ben (Mehefin 2025).
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau,
darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan -