Caiff eich data ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint er mwyn cwblhau ymchwiliad i achosion honedig o dorri’r rheolaeth gynllunio ac i alluogi erlyniadau a thrafodion gorfodi effeithiol. Mae angen prosesu eich data personol fel rhan o’n tasg gyhoeddus fel y nodwyd yn y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac yn y Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am o leiaf y flwyddyn hon a chwe blynedd, ond os ydych wedi derbyn hysbysiad gorfodi, byddant yn cadw'r data am gyfnod amhenodol. Mae’n bosibl y caiff data ei rannu â gwasanaethau eraill yn yr Awdurdod, yr Arolygiaeth Gynllunio neu’r system llysoedd.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.
http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact -Us/Privacy-Notice.aspx