Cludiant i'r Ysgol – Proses Seddi Rhatach
Beth yw pwrpas darparu gwybodaeth bersonol ar gyfer prosesu cais Seddi Gwag Rhatach?
Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu cludiant i ddisgyblion sy’n gymwys i deithio am ddim rhwng eu cartrefi a’r ysgol dan y polisi cludiant ysgol i’r cartref presennol. I wneud hyn, mae coetsys, bysus mini a thacsis yn cael eu darparu’n arbennig ar gyfer cludiant i'r ysgol.
Gellir gwerthu unrhyw seddi gwag ar y cludiant i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i deithio am ddim, gelwir y lleoedd hyn yn Seddi Gwag Rhatach.
I asesu disgybl ar gyfer seddi gwag, mae’n rhaid i riant/gwarcheidwad wneud cais ar-lein gan ddarparu manylion disgyblion a’r ysgol maent y mynychu fel y gellir cynnal asesiad ar a yw cludiant ar gael ai peidio. Unwaith y proseswyd a derbyniwyd y cais, bydd rhaid gwneud taliad o'r ffi berthnasol cyn dosbarthu tocyn teithio.
Mae’n rhaid llenwi ffurflen gais ar gyfer pob tymor ysgol.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi crynhoi rhai o’r ffyrdd y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpas hwn. Dylid darllen yr wybodaeth hon ar y cyd â hysbysiadau preifatrwydd corfforaethol y Cyngor:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
https://www.siryfflint.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice-for-the-Contact-Centre.aspx
Pa ddata y bydd angen i chi ei ddarparu?
Pan mae cais ar gyfer sedd ratach yn cael ei wneud, mae angen y wybodaeth ganlynol er mwyn prosesu cais:
-
Manylion y Rhiant / Gofalwr
- Enw
- Teitl
- Rhif Cyswllt
- Rhif Cyswllt mewn argyfwng
- Cyfeiriad e-bost
- Cyfeiriad cartref
-
Manylion Disgybl/Myfyriwr
- Enw
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Cyfeiriad parhaol y plentyn
- Datganiad Treth y Cyngor
-
Manylion yr Ysgol
- Enw'r Ysgol
- Blwyddyn Ysgol
- Y Tymor gofynnol
- Safle bws / pwynt casglu gofynnol
Yn dilyn asesiad o gais llwyddiannus bydd angen mwy o wybodaeth:
- Gwybodaeth cerdyn Credyd/Debyd
Pam mae angen y wybodaeth hon?
- I bennu a yw seddi rhatach ar gael ar gerbyd cludiant i'r ysgol i'r lleoliad gofynnol
- Hysbysu rhieni / gwarcheidwad ar ganlyniad y cais
- Amseru a threfnu trafnidiaeth ar unrhyw gerbyd cludiant i'r ysgol sydd ar gael
- Hwyluso dosbarthiad tocyn teithio i gyfeiriadau disgyblion
- Cysylltu â rhiant / gwarcheidwad am unrhyw ymholiadau, newidiadau i drefniadau cludo neu argyfyngau .
- ? Gwybodaeth cerdyn credyd / debyd ar gyfer pwrpas tocyn teithio.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?
- Staff awdurdodedig Cyngor Sir y Fflint o fewn yr Uned Trafnidiaeth Integredig ar gyfer pwrpas monitro ac amseru trefniadau cludo
- Staff awdurdodedig Cyngor Sir y Fflint o fewn y Ganolfan Gyswllt ar gyfer pwrpas cymryd taliadau
- Gweithredwyr cludiant awdurdodedig (pan fo hynny’n angenrheidiol) ar gyfer pwrpas trefnu lleoliadau casglu/gollwng
- Ysgolion/colegau lle mae’r cludiant yn cael ei ddarparu (pan fo hynny’n angenrheidiolli>
Am ba hyd y cedwir y data?
Bydd y data ar bob cais unigol yn cael ei gadw am 12 mis unwaith mae'r cais wedi ei dderbyn.
Sut y cedwir y data?
Mae’r Cyngor yn diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd neu ddatgeliad heb ei awdurdodi. Mae’r Cyngor yn diogelu data personol yr ydych yn ei ddarparu ar weinyddwyr cyfrifiadur mewn amgylchedd diogel gan wneud defnydd o systemau a chaledwedd wedi'u hamgryptio.
Eich Hawliau
Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, yn cynnwys yr hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol sydd gan y gwasanaethau amdanoch:
More information can be found here:
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Data-Protection-and-FOI/Deddf-Diogelu-Data.aspx
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ar sut y mae Uned Trafnidiaeth Integredig yn defnyddio eich data personol, cysylltwch â:
E-bost: School.transport@flintshire.gov.uk
Rhif Ffôn: 01352 701234
Yn ysgrifenedig: Rheolwr Uned Trafnidiaeth Integredig, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint. CH7 6LG