Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond at ddibenion penodol o ddarparu cymorth lles i chi. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol fel rhan o’n tasg gyhoeddus o dan Ddeddf Diwygio'r Gyfundrefn Les 2016. Caiff eich data personol categori arbennig ei brosesu am resymau er budd sylweddol i’r cyhoedd o dan Ddeddf Diwygio'r Gyfundrefn Les 2016.
Gall Gyngor Sir y Fflint rannu eich data gyda sefydliadau eraill perthnasol i ddarparu cymorth lles e.e. Cyngor ar Bopeth, Cronfa Cymorth Dewisol ac adrannau mewnol Cyngor Sir y Fflint e.e. Cefnogi Pobl, Tai, Cymorth Llety, er mwyn darparu'r cymorth lles priodol.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am y flwyddyn ariannol bresennol a 4 mlynedd o’r dyddiad nad ydych bellach angen ein cymorth.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. - Hysbysiad Preifatrwydd