Hysbysiad Preifatrwydd Sir y Fflint Ifanc - Cyngor Sir y Fflint
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi’i fwriadu i roi gwybod i chi sut rydym ni’n casglu, defnyddio, rhannu a gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn ystod unrhyw gyfranogiad gyda darpariaeth Sir y Fflint Ifanc yn Sir y Fflint. Darllenwch yr hysbysiad hwn yn ofalus i ddeall ein harferion.
Pa wybodaeth bersonol ydym yn ei chasglu?
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Ethnigrwydd
- Gwybodaeth Gyswllt (cyfeiriad, e-bost, rhif ffôn)
- Gwybodaeth Gyswllt mewn Argyfwng
- Gwybodaeth Feddygol (alergeddau, cyflyrau meddygol, anableddau)
Beth ydym yn ei wneud gyda’ch data personol ac at ba ddiben?
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’n tasg gyhoeddus at y dibenion penodol fel dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau gwasanaethau a gweithgareddau i bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed, Mae hyn er mwyn gwella eu lles, fel mae wedi’i ddiffinio yn Is-adran 13 dan Adran 507B o Ddeddf Addysg 1996 ac fel dyletswydd awdurdodau lleol i gefnogi Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad i adlewyrchu’r ethos sy’n seiliedig ar hawliau, sy’n rhan annatod o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn cynnig arweiniad ar y ffyrdd gorau a mwyaf ystyrlon o wrando ar leisiau plant a phobl ifanc, ac o ymateb iddynt, yn unol ag Erthygl 12 o CCUHP. Mae Erthygl 12 CCUHP yn nodi hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn a sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw. Credir bod yr Erthygl hon yn arbennig o bwysig, o ran ei bod yn hawl sy’n galluogi, yn grymuso ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i fynnu hawliau ehangach dan CCUHP, yng nghyd-destun y teulu, yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Mae Ysgolion Iach yn casglu data er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau i chi a’ch gwarchod tra byddwch chi’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion:
- Eich cofrestru ar ein system gleientiaid i gofnodi eich bod yn cymryd rhan yn ein sesiynau.
- Gwarchod eich diogelwch a’ch lles chi ac eraill wrth ddod i’n sesiynau.
- Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth am weithgareddau llais ifanc eraill a allai fod o ddiddordeb i chi.
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol a gofynion adrodd.
Categorïau arbennig o ddata personol
Bydd eich data categori arbennig (meddygol, iechyd ac ethnigrwydd) yn cael eu prosesu gan Gyngor Sir y Fflint o dan Erthygl 9; (g) mae angen prosesu am resymau budd sylweddol y cyhoedd o dan baragraff (6) 'Dibenion Statudol a Llywodraethol' o dan atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018. Cyfeiriwch at y deddfau uchod.
Pryd fyddwn ni’n dinistrio neu’n dileu eich data?
Mae ein gwasanaeth yn darparu ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu 6 mis ar ôl i chi gymryd rhan ddiwethaf mewn unrhyw weithgaredd gyda Sir y Fflint Ifanc.
A fyddai fy nata yn cael ei rannu gydag unrhyw bartïon eraill?
Bydd eich data ond yn cael ei rannu ag adrannau eraill y cyngor ar brosiectau sy'n codi drwy raglenni Sir y Fflint Ifanc, ynghyd â gwasanaethau eraill, megis Gwasanaethau Cymdeithasol, Heddlu Gogledd Cymru, neu weithiwr iechyd proffesiynol os bydd digwyddiad neu wybodaeth yn cael ei datgelu a allai beri risg diogelu i chi neu rywun arall. Mae hyn yn ofynnol ar Gyngor Sir y Fflint dan Ddeddf Plant 2004 y DU i wella diogelwch plant a phobl ifanc.
Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx