Cais am lety ar gyfer Gweithiwr allweddol
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu’ch data personol er mwyn cofnodi enwau’r bobl sy’n aros yn eich eiddo, enw eu cyflogwr, eich manylion chi a manylion y busnes ar gofrestr. Mae angen prosesu’ch data personol fel rhan o’n tasg gyhoeddus fel y nodir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 (fel y'i diwygiwyd). Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’ch data am 6 blynedd ac yn ei rannu gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Heddlu.
Cyfeiriwch hefyd at Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint ar y wefan. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio’u llinell gymorth ar 0303 123 1113.