Bydd data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir Y Fflint ar gyfer dibenion penodol o weinyddu, monitro a phrosesu eich cais ar gyfer Cynnig Gofal Plant. Gall hyn fod yn berthnasol i’r rhiant/rhieni neu blentyn. Mae prosesu eich data personol yn cael ei ymgymryd fel ‘tasg gyhoeddus’ ar ran Llywodraeth Cymru. Y sail statudol ar gyfer y Cyllid hwn yw adrannau 70 a 71 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru (GOWA) 2006, ynghyd ag adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Gall Gyngor Sir Y Fflint rannu eich data gydag awdurdodau lleol eraill, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr Heddlu a gwasanaethau cefnogi teuluoedd a'r blynyddoedd cynnar a phartneriaid os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn cyflawni ei dyletswyddau i hybu lles. O dro i dro byddwn yn anfon gwybodaeth i chi ar gyfer arolwg er mwyn helpu gwerthuso gweithrediad a darpariaeth Cynnig Gofal Plant.
Bydd rhywfaint o’r wybodaeth a gedwir amdanoch yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eu helpu i gynnal ymchwil er mwyn gwella'r gofal a'r gefnogaeth a roddir i chi a phobl eraill yng Nghymru. Bydd y wybodaeth yn cael ei rannu’n gyfreithiol ac yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil i gefnogi busnes swyddogol yn unig. Dilynwch y ddolen yma i ddarllen mwy am ba wybodaeth gaiff ei rhannu a sut caiff ei defnyddio. Ar gyfer dibenion ymchwil, byddwn yn sicrhau bod y data yn anhysbys cyn i ymchwil gael ei gynnal. Mae rhannu data anhysbys tu allan i reoliad diogelu data cyffredinol.
Bydd Cyngor Sir Y Fflint yn cadw eich gwybodaeth nes bydd y plentyn yn 18 yn unol â'n trefn dargadw. Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir Y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy ymweld â’r wefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 03031231113. Bydd y wybodaeth yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Cynnig Gofal Plant (Y Cynnig) yn cael ei chadw o dan adolygiad er mwyn ymgorffori unrhyw newidiadau pellach a gyfathrebir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Am fwy o wybodaeth am y ffordd mae Cyngor Sir Y Fflint yn prosesu data personol ac eich hawliau gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan neu gwnewch gais am gopi gan y Cyngor.