Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond at ddibenion penodol
- Prosesu eich cais adeilad eiddo / ymholiad
- Trafodion Eiddo e.e. Prydles/Trwydded/Caffael/Gwaredu/Hawddfraint/Fforddfraint
- I’w rannu gydag adrannau eraill Cyngor Sir y Fflint, Asiantau, Ymgynghorwyr neu Gontractwyr fel y cyfarwyddwyd er mwyn prosesu eich cais.
- Cadw eich gwybodaeth ar restr aros yn unol â’ch cais.
Mae angen prosesu i berfformio contract y mae gwrthrych y data’n rhan ganolog ohono, neu er mwyn cymryd camau ar gais y gwrthrych data cyn gwneud contract. Bydd Adran Prisiau ac Ystadau Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hyd at 15 mlynedd. Os aiff y contract yn ei flaen, bydd hyn am 15 mlynedd o ddyddiad dod i ben y contract.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
Gall Cyngor Sir y Fflint neu’r rhai a gyfarwyddir gan yr Awdurdod geisio rhagor o ddilysiad. Os canfyddir bod unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn ffug, yn gamarweiniol neu ar goll, gall hyn arwain at yr Awdurdod yn penderfynu peidio â symud ymlaen ymhellach.