Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion cyflawni ein cytundeb â chi, i drafod eich cais ac i gynnig darpariaeth barhaus o System Larwm Care-Link. Mae’r wybodaeth bersonol sensitif yr ydych yn ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio er mwyn darparu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol i chi o fewn eich cartref.
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei basio i’n prosesydd data (Llesiant Delta Wellbeing, Uned 2 Ystâd Ddiwydiannol Dafen, Heol Aur Dafen, Llanelli, De Cymru SA14 8QN) a fydd yn darparu’r gwasanaeth monitro galwadau ar ein rhan.
Efallai bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu gyda’r GIG, yr Heddlu, neu drydydd parti perthnasol os yw hynny’n angenrheidiol fel rhan o’ch cytundeb i ddarparu gwybodaeth berthnasol, neu mewn argyfwng.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw bartïon eraill neu’n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gadw am gyfnod o 12 mis ar ôl terfynu/darfod y gwasanaeth.
Am fwy o wybodaeth ar sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu gwybodaeth ewch i:
Saesneg - http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx Cymraeg - http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx