Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint at ddibenion asesu eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer y grant. Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol er mwyn cymryd camau ar eich cais cyn sefydlu cytundeb. Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gydag aelodau Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint lle bo’n briodol.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data gydol cyfnod y grant (7 mlynedd). Os caiff y grant ei wrthod, caiff eich data ei gadw am 3 blynedd. Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a'ch hawliau chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan -- http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
Sylwer: Bydd y cynllun grant hwn yn cael ei fonitro gan Bartneriaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint i sicrhau bod y grant yn cael ei wario i’r dibenion a fwriedir a bydd manylion eich lleoliad yn cael eu rhannu gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint a fydd yn rhoi manylion eich lleoedd gofal plant i’r cyhoedd.