Hysbysiad Preifatrwydd - Cymunedau am Waith a Mwy
Adran 1: Darllenwch y datganiad canlynol.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector yn darparu gwasanaethau’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy ar ran Llywodraeth Cymru, sef y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol sy’n cael ei darparu gennych ar y ffurflen gofrestru hon. Byddwn yn prosesu’r ffurflen yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol a roddwyd inni, er mwyn inni fedru cyfrannu at yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei chynllun ‘Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau’.
At ba ddiben fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data:
- At ddibenion cyllido, cynllunio a datblygu polisi yn ogystal â monitro deilliannau’r rhaglen (megis cael gwaith, cyflawni cymwysterau)
- At ddibenion gweinyddu, dilysu ac archwilio
- I gynhyrchu ystadegau am y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy. Mae’r holl ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ddienw, felly nid oes modd eich adnabod chi fel unigolyn
- I rannu straeon newyddion cadarnhaol i helpu i hyrwyddo gwasanaethau Cymunedau am Waith a Mwy a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt, a hynny er mwyn annog mwy o bobl i gofrestru ar gyfer y rhaglen. Oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol, bydd eich gwybodaeth yn aros yn ddienw fel bod eich hunaniaeth yn cael ei diogelu
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data â:
- Chwmni gwerthuso sydd dan gontract i werthuso’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy ar ran Gweinidogion Cymru, gan gynnwys sut mae gwasanaethau Cymunedau am Waith a Mwy wedi’ch helpu o bosibl i wella eich rhagolygon o ran cyflogaeth neu eich helpu i gael gwaith. Bydd eich data yn cael eu rhannu â’r gwerthuswyr, ac mae’n bosibl y byddant yn cysylltu â chi er mwyn gofyn sut mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi’ch helpu i baratoi i gael gwaith neu eich helpu i gael gwaith
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod fy nata yn ddiogel?
Bydd y data y mae Llywodraeth Cymru yn eu casglu amdanoch yn cael eu storio ar gronfa ddata ddiogel y caiff mynediad iddi ei reoli ac y caiff profion eu cynnal yn rheolaidd arni er mwyn sicrhau ei diogelwch a’i huniondeb. Bydd gan Lywodraeth Cymru gytundeb rhannu data ffurfiol pryd bynnag y byddwn yn rhannu eich data â thrydydd parti.
Beth yw fy hawliau a’m dewisiadau?
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
- i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu am resymau sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol chi (o dan rai amgylchiadau)
- i gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael eu dileu (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Am ba hyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw fy ngwybodaeth?
Mae’n ofynnol i Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol a’r sefydliadau trydydd sector sy’n darparu’r rhaglen gadw eich gwybodaeth am uchafswm o saith mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’n wahanol. Yna, caiff eich gwybodaeth ei dinistrio’n ddiogel pan nad oes ei hangen mwyach at y dibenion hyn.
Cysylltiadau
I wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Cymunedau am Waith a Mwy
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
CymunedauAmWaithAMwy@llyw.cymru
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Er mwyn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Llinell Gymorth Cymru: 01625 545745 neu Linell Gymorth y DU: 0303 123 1113
https://ico.org.uk