Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol fod â gweithdrefn gwyno wedi ei chyhoeddi i alluogi aelodau’r cyhoedd sy’n derbyn unrhyw wasanaeth gan y cyngor i gwyno i ni os ydynt yn teimlo nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu. Felly rydym yn cyflawni tasg gyhoeddus a gyflawnir er lles y cyhoedd ac mae hefyd yn ymarfer awdurdod swyddogol sydd wedi ei roi i ni fel Awdurdod Cyhoeddus.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gyda gwasanaethau eraill y cyngor i’n galluogi ni i ddarparu’r gwasanaeth rydych ei angen. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data gyda sefydliadau eraill i ddibenion datrys eich pryder neu gŵyn. Er enghraifft, os ydych yn cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mae’n bosibl y gofynnir i ni rannu copi o ffeil eich cwyn.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 6 blynedd.
Os ydych chi’n credu fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx