Bydd Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon, ac unrhyw dystiolaeth ategol y byddwch yn ei darparu, i brosesu eich cais am Grant Cyfleuster i Bobl Anabl. Mae hyn yn ofynnol dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Caiff yr holl wybodaeth ei chadw’n ddiogel ar ein system am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i’r gwaith grant gael ei gwblhau neu am gyfnod o flwyddyn pan na fydd unrhyw waith yn cael ei wneud.
Mae’n bosibl y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych chi neu rywun arall wedi’i darparu, neu ei rhannu, gyda’r Adrannau canlynol; Yr Adran Gyfreithiol, Y Gwasanaethau Cymdeithasol, Yr Adran Gynllunio a Rheoli Adeiladu, Yr Adran Gyllid gan gynnwys yr Is-adran Budd-daliadau a Chontractwyr penodol y gofynnir iddynt wneud eich gwaith. Mae hyn yn ofynnol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd, ac ar gyfer eich data sensitif, am resymau er budd sylweddol y cyhoedd, dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996..
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau chi, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – http://www.flintshire.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx