Bydd eich data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y pwrpas penodol o gofnodi, rhannu ac asesu eich cais am gefnogaeth sy’n ymwneud â thai fel rhan o’r Porth Cymorth Tai.
Bydd eich data yn cael ei brosesu fel rhan o’n Tasg Gyhoeddus yn amodol ar adran 70 a 71 (1) Deddf Llywodraeth Cymru 2016, a rhannau 169 (6) a (7) Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Mae eich data personol sensitif yn cael ei brosesu ar sail budd sylweddol i’r cyhoedd yn unol â’r deddfau uchod. Dim ond ar ffurf ystadegol y bydd unrhyw ddata sy’n cael gasglu yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru – Ni fydd eich data personol yn cael ei effeithio.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich data am 3 blynedd ar ôl derbyn eich atgyfeiriad.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gyda phrosiectau sy’n cael eu hariannu trwy’r Grant Cymorth Tai, sefydliadau 3ydd sector a sefydliadau statudol. Er mwyn dyrannu cefnogaeth i’r asiantaeth fwyaf priodol neu i gael rhagor o wybodaeth am eich amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu eich data gydag adrannau mewnol Cyngor Sir y Fflint rydych chi’n ymwneud â nhw ar hyn o bryd, yn cynnwys Refeniw a Budd-daliadau, Treth y Cyngor, Tai Cymdogaeth, Timau Cefnogaeth Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Cymdeithasol a Datrysiadau Tai.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.