Bydd Cyngor Sir Y Fflint yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu, a ofynnir ar y ffurflen, ac unrhyw dystiolaeth gefnogol yr ydych yn ei ddarparu i asesu eich cymhwysedd ar gyfer Benthyciad i Berchen-feddiannydd neu Gymorth Ariannol Ad-daladwy. Mae hyn yn ofynnol dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Cedwir y wybodaeth hon yn ddiogel ar system Cyngor Sir y Fflint am gyfnod o 3 mis. Os nad ydych yn gymwys, neu ddim yn dymuno cyflwyno cais llawn, bydd y ffurflen hon yn cael ei dinistrio ar ôl 3 mis. Os yw’r cais llawn wedi mynd rhagddo, bydd yr wybodaeth yn cael ei gadw’n ddiogel ar system Cyngor Sir Y Fflint. Ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cael eu cymeradwyo, cedwir am gyfnod o 12 mis. Ar gyfer ceisiadau sy'n cael eu cymeradwyo ar gyfer y benthyciad hwn, byddan yn cael eu cadw am isafswm 5 mlynedd yn dilyn ad-dalu’r benthyciad yn llawn, fel y nodir o fewn y telerau ac amodau sydd yn ffurfio rhan o gytundeb y benthyciad gyda Chyngor Sir y Fflint. Gall Cyngor Sir Y Fflint wirio neu rannu’r wybodaeth yr ydych chi neu rywun arall wedi’i ddarparu, gyda sefydliadau eraill megis: Cofrestrfa Tir EM, eich banc neu roddwr benthyciadau credyd. Mae hyn yn ofynnol dan gytundeb Deddf Grantiau, Adeiladu ac Adfywio 1996. Os ydych yn teimlo fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau chi, gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx