Caiff eich data ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond ar gyfer y dibenion penodol o brosesu eich cais am le ysgol yn unol â thasg gyhoeddus yr awdurdod o dan y Codau statudol a wnaed dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Bydd data plant a ddarparwyd hefyd yn ffurfio rhan o’u cofnod disgybl craidd a gynhelir gan Gyngor Sir y Fflint.
Gall Cyngor Sir y Fflint rannu eich data gydag awdurdodau lleol eraill, GIG, yr Heddlu, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd/Gwasanaethau Cymorth Cynnar, os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r Cyngor ymgymryd â’i ddyletswyddau i hyrwyddo lles a diogelwch. Fe all hyn olygu trosglwyddo eich data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd os ydych chi wedi byw mewn gwlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd..
Caiff lleoedd eu dyrannu mewn ysgolion yn unol â pholisi’r Cyngor. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth derbyniadau ysgolion tan ben-blwydd eich plentyn yn 25 oed.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan
hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan