Hysbysiad Preifatrwydd
Bydd eich data’n cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond i’r dibenion penodol o weinyddu a phrosesu eich cofrestriad am Gasgliadau Gwastraff Clytiau a Chynnyrch Hylendid Amsugno. Gellid defnyddio gwybodaeth a gesglir gennych chi yn y ffyrdd canlynol:
I fonitro ac adrodd ar nifer yr unigolion sy’n gwneud cais am y gwasanaeth casglu a faint o bobl o wahanol grwpiau sy’n cymryd rhan (e.e. gwahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd).
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi hawliau penodol i chi mewn perthynas â data personol a gedwir amdanoch chi, er enghraifft (ni fwriedir i'r isod fod yn rhestr gyflawn):
Yr hawl i dderbyn copïau o'r data personol sydd gennym ni neu Lywodraeth Cymru amdanoch chi (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am hyn), ond mae'n bosibl y bydd rhai mathau o wybodaeth yn cael eu dal yn ôl yn gyfreithlon
Yr hawl, dan rai amgylchiadau, i atal prosesu data personol os bydd gwneud hynny yn achosi niwed neu ofid
Yr hawl i ofyn am gywiro gwybodaeth anghywir
Yr hawl i ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi ac yn arolygu'r Ddeddf, i asesu p'un ai yw prosesu neu beidio â phrosesu'ch data yn cydymffurfio â darpariaethau'r ddeddf
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw'r wybodaeth a nodwyd ar y Ffurflen Gofrestru am y flwyddyn bresennol a 7 mlynedd ychwanegol.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol, a'ch hawliau chi, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar ein gwefan - hysbysiad preifatrwydd. Os ydych chi'n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â'u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth 0303 123 1113.