Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu’ch data ond at y diben penodol o gysylltu â chi ynglŷn â Chais am Warcheidwaeth Arbennig. Mae angen prosesu eich data personol at ddibenion gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, ac er mwyn cymryd camau ar eich cais chi cyn ffurfio contract.
Ni chaiff yr wybodaeth a rannwch ar y ffurflen hon ei rhannu ag unrhyw asiantaeth na thrydydd parti arall.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw’ch gwybodaeth am ddeng mlynedd yn unol â’n Hamserlen Gadw, neu am dair blynedd o leiaf ar ôl dyddiad gwrthod eich cais neu’i dynnu’n ôl.
Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’r wefan neu ffonio’r llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau chi, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx